Cacennau sy'n Ennill Gwobrau!

Mae Rhwbeth Melys yn ddylunydd cacennau nodedig. Mae’r gwobrau yn cynnwys; Dylunydd Cacennau y Flwyddyn yng ngwobrau ‘Welsh Wedding’ 2018, a chyrraedd y rownd derfynol yn 2019, Person Busnes Ifanc yng ngwobrau Busnes Sir Benfro 2018, a chyrraedd y rownd derfynol yn ‘Countryside Alliance Rural Oscars’ yn 2016.

Cliciwch isod i weld lluniau o greadigaethau blaenorol! 

Cacennau Priodas Unigryw!

Rydym yn deall pwysigrwydd perffeithrwydd ar eich diwrnod arbennig. Gadewch i ni ddylunio a chreu eich cacen hardd ac unigryw.

 

Cliciwch isod am fwy o wybodaeth ar gacennau priodas personol.

Croeso

Rydym wedi ein lleoli ym Maenclochog, pentref bach wrth odre’r Preselau yn Sir Benfro.

 

Mae’r enw ‘Rhwbeth Melys’ yn syml yn adlewyrchu yr hyn yr ydym yn ei wneud.

Angen ysbrydoliaeth? Edrychwch ar ein creadigaethau.

Cacennau Personol

Rydym yn angerddol ynglyn â chreu cacennau sydd yn bersonol i chi, felly os oes gennych unrhyw syniad, byddem wrth ein boddau yn ei glywed! Peidiwch oedi cyn ffonio er mwyn cael cyngor proffesiynol a chyfeillgar.

 

Rydym wedi creu ystod eang o gacennau ar gyfer amryw o achlysuron. Gweler ein galeri er mwyn cael syniadau ac ysbrydoliaeth – mae unrhywbeth yn bosib!

Tystebau

Diolch i 'Rhwbeth Melys' am ddod â thractor Tadcu yn fyw. Roedd pob manylyn yn ei le, a Steffan wrth ei fodd. Roedd hi'n blasu llawn cystal ag oedd hi'n edrych hefyd. Tipyn o gamp. Diolch Megan.

Mari Grug

Roeddwn yn hapus iawn gyda'r gacen- roedd popeth yn ei le yn berffaith! Roedd trefnu ffordd i dalu a chasglu'r gacen yn rhwydd ac yn ddi-ffws hefyd.

Sian Jones

Dewisom ni Rhwbeth Melys i wneud ein cacen priodas haf 'leni a dyna beth wedd syniad da! Wedd Megan yn broffesiynol tu hwnt ac yn ddeallus iawn ynglyn a'n dyminiade ni. Fe ddath hi ben a pharatoi cant a hanner o gacene cwpan hollol fendigedig, blasus a thrawiadol. Bydden ni ddim yn meddwl dwywaith cyn gofyn i Megan i baratoi unrhyw fath o gagen at unrhyw achlysur!

Gwen Griffiths

Wedi cael sawl cacen a chacennau bach wrth y cwmni ers iddo ddechrau ac nid wyf wedi cael fy siomi ar unrhyw adeg.

Hafwen Davies

Mae'r cacennau bob tro o'r safon uchaf ac mae'n amlwg bod Megan yn berffeithydd.

Sian Davies

Dwi'n parhau i gael fy syfrdanu gyda'r syniadau gwreiddiol a'r sylw manwl a roddir i mewn i gynllunio'r cacennau.

Eurgain Wyn

Cysylltwch heddi!

Mae bod yn rhan o ddydd arbennig rhywun, boed yn benblwydd, priodas, bedydd neu’n benblwydd priodas, yn rhan o beth sydd yn gwneud y swydd hon yn llawn hwyl, felly codwch y ffôn a byddwn yn falch i’ch helpu i greu cacennau pwrpasol ar gyfer eich achlysur arbennig.