Amdanaf i

Amdanaf i

Fy enw i yw Megan, a dwi’n pobi fy nghacennau o fy nghegin ym Maenclochog, pentref bach wrth odre’r Preselau yn Sir Benfro.

Rwy’n datblygu fy sgiliau yn gyson er mwyn sicrhau bod y cacennau o’r safon uchaf, a’u bod yn blasu yr un mor dda ag y maent yn edrych!

Rwy’n teimlo’n falch o fod wedi derbyn sawl gwobr am fy nghynnyrch a’m busnes. Mae’r ffaith bod fy nghwsmeriaid bodlon wedi fy enwebu yn golygu’r cyfan. Mae’r gwobrau yn cynnwys; Dylunydd Cacennau y Flwyddyn yng ngwobrau ‘Welsh Wedding’ 2018, a chyrraedd y rownd derfynol yn 2019, Person Busnes Ifanc yng ngwobrau Busnes Sir Benfro 2018, a chyrraedd y rownd derfynol yn ‘Countryside Alliance Rural Oscars’ yn 2016. Gwelwyd fy nghacennau hefyd ar raglen ‘Heno’ ar S4C.

Rhwbeth Melys

Datblygodd fy niddordeb mewn pobi a phethau melys yn gyflym, a chyn pen dim, fe ddaeth yn yrfa i mi. Blas yw’r peth pwysicaf i mi, a dyna pam mae fy nghacennau blasus yn cael eu creu o’r cynnyrch lleol gorau yn fy nghegin a dderbyniodd marc safon 5 hylendid gan yr Asiantaeth Safon Bwyd.

Cysylltwch heddi!

Mae bod yn rhan o ddydd arbennig rhywun, boed yn benblwydd, priodas, bedydd neu’n benblwydd priodas, yn rhan o beth sydd yn gwneud y swydd hon yn llawn hwyl, felly codwch y ffôn a byddwn yn falch i’ch helpu i greu cacennau pwrpasol ar gyfer eich achlysur arbennig.