Cacennau Priodas

wedding cakes pembrokeshire

Eich dydd arbennig chi yw’n blaenoriaeth ni. Rydym yn dwli cyfarfod ein darpar gyplau, a chynnig sesiwn blasu cacennau yn Rhwbeth Melys. Mae hyn yn gyfle i drafod eich anghenion chi mewn manylder. Wrth wneud hyn, rydym yn sicrhau bod eich dymuniadau yn cael ei cyflawni. Rydym hefyd yn cynnig pice ar y maen mewn siâp calon fel ffafrau priodas.

Cliciwch ar y linc isod i ddarganfod mwy am y blasau. Os nad yw eich hoff flas chi yno, gadewch i ni wybod – rydym yn hoffi her!

wedding cakes pembrokeshire

Sut i archebu eich cacennau priodas:

  1. Y cam cyntaf yw trefnu cyfarfod gyda Rhwbeth Melys. Bydd y cyfarfod yn cynnwys trafod syniadau sydd gennych er mwyn cydweithio i greu y dyluniad perffaith.
  2. Trafod eich cynllun, blasau a thopinau, a chael cyfle i flasu eich blasau dewisol dros ddished o de. Byddwn yn cyflwyno y syniad terfynol a sicrhau eich bod yn hapus cyn symud ymlaen i’w greu.
  3. Ymlaciwch! Gadewch bopeth i ni! Byddwn yn gweithio ar bob manylyn o’ch cacen i sicrhau ei fod yn berffaith. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad er mwyn eich diweddaru a gofyn ambell gwestiwn. Gallwch fod yn sicr y bydd gennych y gacen perffaith ar gyfer eich diwrnod arbennig.