Ein Gwasanaethau

Cacennau

Mae pris y cacennau’n amrywio yn dibynnu ar eich gofynion personol chi. Er mwyn cael syniad o bris, cysylltwch â Rhwbeth Melys.

 

Rydym yn gallu darparu ar gyfer unrhyw achlysur, boed hynny yn benblwydd, bedydd, priodas neu unrhyw ddathliad sydd gennych.

Blasau a Llenwadau

Y blasau mwyaf poblogaidd yw’r spwnj fictoria, y ffefryn traddodiadol gyda sbwnj fanila a jam mafon yn ogystal â’r sbwnj siocled sydd wedi’i lenwi ag eisin siocled cyfoethog- mae’n berffaith i’r rhai sy’n addoli siocled!

Awyddus i flasu rhywbeth gwahanol? Mae’r amrywiaeth o flasau yn cynnwys; caramel hallt, siocled oren, lemwn, lemwn ac ysgawen, lemwn a hadau pabi,  siocled gwyn, siocled gwyn a mafon, melfed coch, cacen foron, oren, banana, coffi a banoffi.

Mae cacen ffrwythau yn ffefryn gan ei fod yn llawn rhesins a cheirios, ac mae wed’i orchuddio gan farsipan ac eisin.

Mae blasau, llenwadau ac eisin gwahanol ar gael ar gais- Byddwch yn greadigol!

Maint Cacennau

Mae’r cacennau yn 4 modfedd o daldra ac maent yn dod mewn amrywiaeth o flasau. Gwelwch y tabl isod am ganllaw bras. Mae cacen ffrwyth, fodd bynnag, fel arfer yn cael ei dorri yn ddarnau llai, ac felly nid yw’r canllaw yn berthnasol i’r gacen yma. 

 

Yn yr un modd, os yr ydych yn dewis cacen mewn siâp arbennig, er enghraifft cacen siâp car, nid yw’r canllaw dogn yma yn berthnasol, ond fe fyddwn yn sicrhau eich bod yn cael y maint sydd angen arnoch.

Canllaw Dogn

Ddim yn siwr pa maint cacen i’w archebu? Mae ein canllaw dogn yn rhoi amcan ar maint y gacen sydd angen arnoch.

Ffafrau Priodas

Rydym hefyd yn cynnig pice ar y maen mewn siâp calon fel ffafrau priodas.

 

Mae’r ffafrau priodas yn dod mewn bag o dri pice ar y maen bach. Mae’n bosib ei personoleiddio i’r gwesteion neu gydag enw’r cwpl a’r dyddiad.

Cacennau Caws

Mae Rhwbeth Melys yn cyflenwi cacennau caws i ddwy siop leol; Siop Sarah, Maenclochog a Brian Llewelyn a’i Ferched, Eglwyswrw. Mae pedwar blas yn newid yn wythnosol. Rydym hefyd yn gwneud cacennau caws mawr ar gyfer achlysuron arbennig.

Cyngor Alergedd

Mae cacennau heb glwten ar gael i unrhyw un ag anghenion deietegol arbennig. Nid yw Rhwbeth Melys yn gweithredu cegin heb gnau. Er nad yw’r mwyafrif o’r cacennau yn cynnwys cnau, ni allwn sicrhau diogelwch y rhai ohonoch sydd ag alergedd i gnau.